Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd
Dyddiad: Dydd Llun, 11 Gorffennaf 2016
Amser: 14.00 -
14.49
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/3669
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Nick Ramsay AC (Cadeirydd) Mohammad Asghar (Oscar) AC Neil Hamilton AC Rhianon Passmore AC Lee Waters AC |
Tystion: |
Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru Gillian Body, Swyddfa Archwilio Cymru Jeremy Morgan, Swyddfa Archwilio Cymru Matthew Mortlock, Swyddfa Archwilio Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Fay Buckle (Clerc) Meriel Singleton (Ail Glerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Joanest Varney-Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod cyntaf Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Pumed Cynulliad.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Mike Hedges AC a Rhun ap Iorwerth AC. Nid oedd unrhyw ddirprwyon.
1.3 Cyflwynodd y swyddogion sy'n cefnogi'r Pwyllgor eu hunain i'r Aelodau.
1.4 Cyflwynodd Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru, ei hun i'r Aelodau.
2.1 Derbyniwyd y cynnig.
3.1 Cyflwynodd y Cadeirydd bapurau 1 a 2 i'r Pwyllgor. Ystyriodd yr Aelodau y papurau a chytuno i graffu ar gyfrifon blynyddol nifer o sefydliadau a ariennir gan drethdalwyr yn ystod tymor yr hydref.
3.2 Eglurodd Archwilydd Cyffredinol Cymru ei rôl a'i gyfrifoldebau cyswllt â'r Pwyllgor, a chyflwynodd bapurau 3 a 4.
3.3 Nododd y Pwyllgor ei gyfrifoldebau ac ar ôl trafodaeth, cytunodd yr Aelodau ar raglen waith gychwynnol gan awgrymu nifer o feysydd posibl ar gyfer ymchwiliad dan arweiniad y Pwyllgor.
3.4 Yn dilyn awgrym, cytunodd y Cadeirydd i ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu i ofyn i’r Pwyllgor drafod cyfrifon blynyddol y BBC pan fydd yn edrych ar adroddiad blynyddol y sefydliad.